Nid oes clyweliadau ffurfiol ar gyfer Cerddorfa’r Bobl.
Yn hytrach, rydym yn eich gwahodd i ddod draw, gwrdd â’r tîm a phrofi ymarfer drosoch eich hun. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall eich profiad o chwarae, eich hyder a’ch cefndir cerddorol, gan eich helpu hefyd i benderfynu a yw’r grŵp yn teimlo fel y lle iawn i chi.
Mae Cerddorfa’r Bobl yn perfformio cerddoriaeth heriol a chyffrous ar safon uchel, felly byddwn bob amser yn onest ac yn gefnogol ynghylch ble rydych chi ar eich taith gerddorol ar hyn o bryd a pha mor gyfforddus rydych chi’n teimlo o fewn y gerddorfa.
Mae llawer o chwaraewyr yn teimlo’n nerfus cyn eu hymarfer cyntaf, yn enwedig os nad ydynt wedi chwarae ers tro, ond mae gan ein tîm brofiad o helpu cerddorion i ymgartrefu a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi o’r cychwyn cyntaf.




